Cyflwyniad i CGA

Ni yw'r rheoleiddiwr annibynnol, proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru, ar gyfer athrawon a staff cymorth dysgu mewn ysgolion a lleoliadau addysg bellach, gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid, ac ymarferwyr dysgu'n seiliedig ar waith.

Sefydlwyd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, a daeth i fodolaeth ar 1 Ebrill 2015.

Ein gweledigaeth yw edrych tua'r dyfodol a bod yn ymatebol, a bod ein cofrestreion, dysgwyr, pobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid a'r cyhoedd yn ymddiried ynom.